
Showt


.png)
I DDOD YN FUAN: CYCHWYN AR Y 1af O RAGFYR
Ydych chi'n teimlo eich bod yn stryglo ac yn ansicr ble i droi?
Os ydych chi rhwng 16 a 24 oed ac yn byw yng Ngwynedd, gallwch gysylltu â ni am unrhyw broblemau rydych chi'n eu hwynebu.
Dewch i un o'n gwasanaethau galw heibio ledled Gwynedd, neu cysylltwch â ni i drefnu sgwrs. Lawrlwythwch yr ap Showt ar eich ffôn a chysylltwch â ni - mi wnawn ni ofalu am y gweddill!

Ap i ddod yn fuan

Cymorth wrth law. Bydd ap Showt ar gael i'w lawrlwytho ar eich ffôn yn fuan.
Tra byddwch yn aros am yr ap, cysylltwch â ni ar 07587129356 neu jane@cyflecyf.cymru

Sut allwn ni helpu?
Dydyn ni ddim eisiau i chi deimlo ar eich pen eich hun. Beth bynnag sy'n eich poeni, gyda'n gilydd gallwn wneud pethau'n well.
Materion tai
Perthnasau
Problemau ariannol
Gorddibyniaeth
Iechyd Meddwl
Banc Bwyd
Mwy am Showt
Mae Showt yn wasanaeth galw heibio ac ap sy'n cael ei redeg gan Cyfle, ac fe'i hariennir drwy Grant Cymorth Tai Cyngor Gwynedd. Bydd y gwasanaeth newydd yn cychwyn ar y 1af o Ragfyr. Mae'r prosiect yn galluogi ni yn Cyfle i ddarparu cyngor hygyrch a chymorth ymarferol i bobl ifanc rhwn 16 a 24 oed ledled Gwynedd. Bydd y gwasanaeth yn cynnig cymorth ymarferol a hygyrch – gan gynnwys cymorth brys – gyda'r nod o atal digartrefedd, mynd i'r afael â phroblemau'n gynnar, a helpu pobl ifanc i symud tuag at fwy o annibyniaeth. Mae'r enw Showt yn adlewyrchu un o negeseuon allweddol y gwasanaeth: "Rho Showt" – sef gwahoddiad i bobl ifanc gysylltu, gofyn am gymorth a chymryd y cam cyntaf hwnnw. Boed angen cymorth brys, cyngor neu rywun i siarad â nhw, nod Showt yw ei gwneud hi'n haws cysylltu a dod o hyd i'r cymorth cywir.

